top of page

Sioe Arddangos y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu  Cymdeithasol

10 Mawrth 2026 
Gwesty’r Angel, Caerdydd

WG logo black.png

Hysbysiad Preifatrwydd

Y Cefndir

Ym mis Rhagfyr 2023, cyhoeddwyd y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol, sy'n cyflawni ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu 2021-26 i gyflwyno fframwaith Cymru gyfan. Trwy lenwi a chyflwyno'r ffurflen gais ar gyfer y digwyddiad, rydych chi'n derbyn y gwahoddiad ar-lein i fod yn bresennol mewn digwyddiad arddangos cenedlaethol. Bydd y digwyddiad Arddangos Cenedlaethol Presgripsiynu Cymdeithasol sydd ar ddod yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 10 Mawrth 2026 yng Ngwesty'r Angel yng Nghaerdydd, ac mae wedi'i gynllunio i ddathlu'r llwyddiannau a'r cerrig milltir hyd yma o ran y rhaglen genedlaethol bwysig hon. Nod y digwyddiad yw tynnu sylw at yr ymdrechion ar y cyd, y mentrau arloesol, a'r canlyniadau effeithiol a gynhyrchir drwy weithgareddau'r rhaglen. Trwy ddod â rhanddeiliaid, partneriaid a buddiolwyr at ei gilydd, bydd y digwyddiad arddangos yn llwyfan i fyfyrio ar gynnydd, rhannu arferion gorau, ac ysgogi ymgysylltu a thwf parhaus.

Bydd y cwmni rheoli digwyddiadau, Production 78 Ltd, a gomisiynwyd i helpu i drefnu a chyflwyno'r digwyddiad, yn ei hyrwyddo ac yn annog cyfranogwyr i gofrestru drwy e-bost a sianeli cyfryngau cymdeithasol. Bydd Production 78 Ltd hefyd yn llunio deunyddiau i'w rhannu ar ôl y digwyddiad.

Bydd Llywodraeth Cymru (y "Rheolydd Data") a Production 78 Ltd (y "Prosesydd Data") yn prosesu eich data personol at ddibenion rheoli eich cyfranogiad yn y digwyddiad.

 

Data personol i'w casglu

Bydd y ffurflen ar-lein yn casglu eich enw, eich teitl swydd a'ch cyfeiriad e-bost, gan fod y rhain yn angenrheidiol i gael mynediad i'r lleoliad a chymryd rhan yn y digwyddiad, ynghyd â'ch lleoliad. Os na fyddwch chi’n darparu’r wybodaeth hon, efallai na fyddwn ni'n gallu caniatáu ichi gael mynediad na’ch galluogi i gymryd rhan. Caiff bathodyn enw ei roi i bob unigolyn a fydd yn bresennol yn bersonol pan fydd yn cyrraedd y dderbynfa.

 

Gyda'ch cydsyniad, byddwn ni'n casglu gwybodaeth am eich gofynion hygyrchedd, rhif cofrestru eich car ac ati, i sicrhau amgylchedd diogel a chynhwysol.

 

Bydd tynnu ffotograffau a ffilmio ar waith i gofnodi'r digwyddiad ac i'w defnyddio yn ddiweddarach. Mae hyn yn awgrymu y bydd eich data personol, gan gynnwys eich llais, eich wyneb a’ch enw, yn weladwy i’r gynulleidfa yn ystod y digwyddiad.

 

Defnyddio data personol:

  • Dim ond at ddibenion mynediad i'r digwyddiad a chyfathrebu y bydd eich enw a'ch e-bost yn cael eu defnyddio.

  • Mae angen gwybodaeth am eich lleoliad arnom ni i fonitro a rheoli cwmpas y rhai a fydd yn bresennol yn y digwyddiad.

  • Byddwch chi'n cael bathodyn enw yn y dderbynfa ar ôl cyrraedd.

  • Bydd tynnu ffotograffau a ffilmio ar waith yn ystod y digwyddiad at ddibenion hyrwyddo ac archifo. Mae hyn yn cynnwys delweddau, recordiadau llais a fideo a all gael eu rhannu'n gyhoeddus wedyn. Trwy fod yn bresennol yn y digwyddiad, rydych chi'n cydnabod y bydd tynnu ffotograffau a ffilmio ar waith, ac yn cydsynio i'ch llun, eich llais a'ch data personol gael eu defnyddio fel y disgrifiwyd. Bydd Production 78 Ltd yn golygu'r recordiadau ac yn dewis ffotograffau ar gyfer pecynnau hyrwyddo a fydd yn darparu uchafbwyntiau ar ôl y digwyddiad a chrynodeb o'r themâu allweddol, i hyrwyddo ymgysylltu parhaus y tu hwnt i'r digwyddiad. Bydd y cynnwys gwreiddiol yn cael ei ddinistrio. Os nad ydych chi'n dymuno i'ch llun gael ei dynnu na chael eich recordio, rhowch wybod i staff y digwyddiad ar y dechrau.

  • Bydd data eraill, megis anghenion dietegol neu rif cofrestru eich car i'ch galluogi i barcio yn y lleoliad, yn cael eu defnyddio i sicrhau profiad diogel a chynhwysol. 

 

Pa mor ddiogel yw'r data personol? 

 

Mae'r wybodaeth bersonol a ddarperir i Lywodraeth Cymru bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer bach o swyddogion polisi a gweinyddwyr sy’n gweithio ar y prosiect hwn fydd yn cael gweld y data. Dim ond at ddibenion y digwyddiad arddangos hwn y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'ch data personol.

  

Y sail gyfreithiol dros brosesu

  • Mae'r prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni contract, neu i gymryd camau ar eich cais chi cyn ymrwymo i gontract (ee cofrestru ar gyfer y digwyddiad).

  • Gellir dilyn buddiannau cyfreithlon hefyd, megis sicrhau diogelwch a rheoli trefniadau ymarferol y digwyddiad.

 

Cadw a dileu data

 

Dim ond cyhyd ag sy'n angenrheidiol at ddibenion y digwyddiad a'r gweithgaredd rhannu ar ôl y digwyddiad y bydd eich data'n cael eu cadw. Byddant yn cael eu dileu'n ddiogel ar ôl hynny.

  • Bydd y data a gesglir gan Production 78 Ltd drwy'r ffurflen ar-lein a dulliau eraill yn cael eu rhannu yn ôl â Llywodraeth Cymru ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben, a bydd Production 78 Ltd yn eu dileu ar ôl hynny.

  • Bydd y digwyddiad yn cael ei drefnu a'i reoli'n gyfan gwbl gan swyddogion Llywodraeth Cymru a neilltuwyd i'r prosiect, yn ogystal â Production 78 Ltd. Nid oes gofyniad i rannu unrhyw ddata personol â'r lleoliad (Gwesty'r Angel). Bydd yr wybodaeth ddietegol a ddarperir at ddibenion arlwyo yn cael ei chyfyngu i anghenion dietegol cyffredinol ac ni fydd enwau unigol yn cael eu rhannu.

  • Dim ond cyhyd ag y bydd eu hangen at ddibenion y digwyddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich data a byddant yn cael eu dileu'n ddiogel ar ôl hynny.

  • Bydd eich delwedd a'ch llais sydd yn y ffotograffau a'r recordiad, a fydd wedi'u golygu i ddangos uchafbwyntiau'r digwyddiad a themâu allweddol, ar gael i'r cyhoedd.

 

Hawliau unigolion 

 

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau a ganlyn mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a rennir gennych yn rhan o'r digwyddiad hwn. Yn benodol, mae gennych yr hawliau a ganlyn: 

  • Yr hawl i gael gafael ar gopi o'ch data personol;  

  • Yr hawl i ofyn inni gywiro unrhyw beth sy’n anghywir yn y data hynny; 

  • Yr hawl i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol); 

  • Yr hawl i ofyn bod eich data yn cael eu 'dileu' (o dan amgylchiadau penodol); 

  • Yr hawl i wneud cwyn a’i gyflwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data. 

 

Gwybodaeth bellach 

 

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir yn rhan o drefnu a chyflwyno'r digwyddiad arddangos cenedlaethol hwn yn cael eu defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â: 

 

Dyma fanylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

 

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: https://cy.ico.org.uk/  

bottom of page