Sioe Arddangos y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol
10 Mawrth 2026
Gwesty’r Angel, Caerdydd

Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol yng Nghymru
Cyflwynwyd y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol ym mis Rhagfyr 2023 fel rhan o ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i greu dull Cymru gyfan. Mae’n darparu gweledigaeth ar y cyd a sylfeini cyson ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol ar draws Cymru, gan gefnogi ymarferwyr, arwain ansawdd a chanlyniadau, ac atgyfnerthu rôl cymorth sy’n seiliedig ar y gymuned. Mae’r Fframwaith yn dod â chyfeiriad polisi, adnoddau ymarferol, hyfforddiant ac arweiniad ynghyd er mwyn helpu presgripsiynu cymdeithasol i barhau i dyfu’n ddiogel ac yn effeithiol - gan hefyd ganiatáu hyblygrwydd i gymunedau gyflawni’r hyn sy’n gweithio orau yn lleol.
Y Sioe Arddangos
Cynhelir Sioe Arddangos y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol ar y dyddiad canlynol:
10 Mawrth 2026
Yng Ngwesty’r Angel, Caerdydd.
Bydd y digwyddiad undydd hwn yn dathlu effaith presgripsiynu cymdeithasol ledled Cymru, gan amlygu dulliau sy’n canolbwyntio ar y gymuned i rymuso pobl a chymunedau i reoli eu llesiant. Bydd yn arddangos arloesedd yng Nghymru a chryfder y cydweithredu ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol, gwirfoddol a chymunedol, gan hefyd rannu tystiolaeth, astudiaethau achos a phrofiadau sy’n dangos yr effaith wirioneddol. Bydd y digwyddiad hefyd yn cefnogi ac yn grymuso ymarferwyr trwy ddysgu’n gysylltiedig â’r Fframwaith Cymhwysedd a’r Rhaglen Sgiliau a Gwybodaeth, hybu mynediad cynhwysol a dwyieithog, ac ysbrydoli mynychwyr i ddefnyddio adnoddau ymarferol a’r hyn a ddysgwyd yn eu hymarfer a’u polisi at y dyfodol.